Lleoliad y cyfarfod:
Siambr Hywel - Tŷ Hywel
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 5
Tachwedd 2025
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd
yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd
i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn
2.
Gweld y Cwestiynau
(45 munud)
Bydd y Llywydd
yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd
i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl Cwestiwn
2.
Gweld y Cwestiynau
(20 munud)
I ofyn
i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros
Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Peredur Owen
Griffiths (Dwyrain De Cymru): Beth y mae'r Llywodraeth yn ei
wneud i wella diogelwch cymunedol yn sgil ymosodiad angheuol gan gi
yn Sir Fynwy?
I ofyn
i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros
Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Adam Price (Dwyrain
Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet
ddatganiad am y llifogydd eang yn Sir Gaerfyrddin neithiwr, ac
amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu cymorth a
mesurau ataliol yn y dyfodol i gymunedau yr effeithir
arnynt?
(5 munud)
(5 munud)
NDM9033 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau sy’n deillio o Ddeddf Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) 2025’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref.
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar 1 Ionawr 2026.
(5 munud)
NDM9032 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 17: pleidleisio mewn Pwyllgor o'r Senedd Gyfan a chyfrifoldeb am fynediad i gyfarfodydd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2025.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 17, fel y nodir yn Atodiad 2 i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
(5 munud)
NNDM9037 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Sam Rowlands (Ceidwadwyr Cymreig) yn lle Paul Davies (Ceidwadwyr Cymreig) yn aelod o Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau.
(30 munud)
NDM8985 Rhys ab Owen (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i wahardd defnyddio plastig untro ar gynnyrch ffres ar gyfer ffrwythau a llysiau sydd wedi cael eu profi i fod o ddim budd neu fod y budd yn ddibwys, o ran ymestyn oes silff pan fyddant wedi'u pecynnu mewn plastig.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) lleihau faint o blastig untro diangen sydd ar draws cadwyni cyflenwi Cymru, gan ddiogelu'r amgylchedd ac iechyd pobl;
b) lleihau gwastraff bwyd a lleihau'r baich ar gyllid cartrefi drwy ganiatáu i ddefnyddwyr brynu dim ond yr hyn sydd ei angen arnynt yn seiliedig ar bwysau.
3. Yn nodi y byddai'r Bil yn berthnasol dim ond wrth brynu ffrwythau a llysiau mewn symiau is na 1.5kg.
(60 munud)
NDM9034 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad traws-bwyllgor y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol; y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith; Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig; a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: ‘Adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Medi 2025.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2025.
(60 munud)
NDM9031 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r rhaglen i sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru, a gychwynnwyd gan Blaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio.
2. Yn gresynu bod cynnydd ar y rhaglen waith hon wedi bod yn araf o dan arweinyddiaeth Llywodraeth Lafur Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r cynnydd o ran diwygio'r system gofal cymdeithasol drwy wneud y canlynol:
a) penodi cyfarwyddwr ar gyfer Cymru gyfan gyda goruchwyliaeth strategol o drefniadau gofal y tu allan i'r ysbyty;
b) datblygu cyllidebau cyfunol ar gyfer trefniadau gofal y tu allan i'r ysbyty;
c) gosod byrddau partneriaeth rhanbarthol ar sail statudol gyda chylch gwaith clir i feithrin mwy o gydweithredu rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol;
d) sicrhau bod pob gofalwr di-dâl yn cael asesiad o anghenion o fewn cyfnod o 28 diwrnod; ac
e) ymgorffori o
fewn cyfraith Cymru isafswm blynyddol cyfreithiol o ddiwrnodau
seibiant ar gyfer gofalwyr di-dâl.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn gresynu:
a) bod y Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru i sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol wedi methu â chyflawni newid ystyrlon yn y sector gofal cymdeithasol;
b) bod baich treth cynyddol Llywodraeth Lafur y DU a roddir ar gyflogwyr, drwy godiadau yswiriant gwladol, yn bygwth hyfywedd llawer o ddarparwyr gofal;
c) bod Llywodraeth Cymru wedi methu cefnogi'r gwaith o ddatblygu gweithlu digonol ar gyfer y sector gofal cymdeithasol, gan gynnwys mynediad digonol at hyfforddiant, a chadw gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru;
d) bod bwlch brawychus ac annerbyniol rhwng polisi ac ymarfer ar asesiadau ar gyfer gofalwyr a darparu cymorth; ac
e) bod problemau parhaus o ran mynediad at becynnau gofal sy'n arwain at oedi wrth ryddhau o'r ysbyty.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyflwyno hawl statudol i seibiant, gydag isafswm o 14 diwrnod y flwyddyn ar gyfer gofalwyr di-dâl; a
b) datblygu a chyhoeddi dangosyddion perfformiad allweddol ystyrlon, yn y parth cyhoeddus, i gefnogi gwelliannau mewn gofal cymdeithasol, gan gynnwys mynediad at asesiadau, darparu cymorth amserol, mynediad at seibiant, a datblygu'r gweithlu gofal cymdeithasol.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant
2 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r rhaglen i sefydlu gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru, sef ymrwymiad ar y cyd yn y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
2. Yn cydnabod y cynnydd a wnaed ar raglen waith Cam 1 mewn partneriaeth, gan gynnwys:
a) sefydlu Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth i ddarparu arweinyddiaeth genedlaethol gref, gan weithio ochr yn ochr â swydd Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru.
b) sefydlu'r egwyddorion a'r safonau cenedlaethol i lywio'r gwaith o drawsnewid i gomisiynu gwasanaethau gofal a chymorth mewn modd sy'n canolbwyntio ar y person;
c) deddfu ar ddileu elw o ofal plant ac estyn yr opsiwn o daliadau uniongyrchol i bobl sy'n cael gofal iechyd parhaus; a
d) sefydlu Partneriaeth y Gweithlu Gofal Cymdeithasol a'i gwaith i ddatblygu fframwaith tâl a dilyniant.
3. Yn croesawu gwaith Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
a) cydgynhyrchu glasbrint ar gyfer System Gofal Cymunedol Integredig i Gymru;
b) cryfhau llywodraethiant cenedlaethol a rhanbarthol i arwain a chefnogi system iechyd a gofal cymdeithasol fwy cydgysylltiedig yng Nghymru;
c) buddsoddi £278m y flwyddyn drwy Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i feithrin capasiti ar gyfer gofal cymunedol integredig yn ogystal â buddsoddi £30m mewn llwybrau gofal, o ganlyniad i'r cytundeb cyllideb gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru;
d) cryfhau deddfwriaeth a chanllawiau mewn perthynas ag integreiddio a gweithio mewn partneriaeth, gan gynnwys cydgomisiynu a chyfuno adnoddau;
e) sbarduno'r gwaith o gyflawni'r strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl, gan gynnwys y cynllun seibiannau byr i helpu gofalwyr gyda'u gweithgareddau hanfodol;
f) sefydlu Fforwm y Gweithlu Gofal Cymdeithasol a pharhau i ariannu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i'n gweithlu gwerthfawr; a
g) cynnal y gyfundrefn fwyaf hael o ran codi tâl yn y DU gyda therfyn cyfalaf o £50,000 ar gyfer gofal preswyl a chap wythnosol o £100 ar gyfer gofal cartref.
(0 munud)
Ni chyflwynwyd pwnc
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30,
Dydd Mawrth, 11 Tachwedd 2025